Pwy Ydym Ni
Mae Tîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru (SMWCRT / TAOD&ChC) yn sefydliad gwirfoddol ac yn elusen a sefydlwyd ym 1946 i gynorthwyo pobl ac anifeiliaid mewn angen dan y ddaear. Rydym ni yn un o’r timau achub hynaf a mwyaf yn y wlad, yn cwmpasu ogofeydd a safleoedd mwyngloddio ar draws De a Chanolbarth Cymru i gyd, ardal sy’n cynnwys rhai o’r ogofâu hiraf a dyfnaf yn y DU! |
Yr Hyn a Wnawn
Ein prif rôl yw tîm achub ogofâu, a sefydlwyd i gefnogi fforwyr ogofâu a mwyngloddiau, ond rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag Achub Mynydd, a thimau achub eraill i ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau ar ran yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân. Yn ogystal ag achub ogofâu, rydym hefyd yn cael ein galw allan i achub anifeiliaid, i ddarparu cymorth technegol i dimau achub eraill a gwasanaethau brys, ac i chwilio am bobl ar goll. Mae ein sgiliau a’n profiad wedi cefnogi digwyddiadau mawr fel trychineb Glofa Gleision (2011), chwilio April Jones y ferch ysgol fu ar goll (2012) a darparu cymorth ar gyfer Ymdrech Achub Ogof Gwlad Thai (2018). Rhif Elusen Gofrestredig (1016463) |
Sut Rydym yn Cyflawni ein Nod
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser a rhoddion cyhoeddus i weithredu'r gwasanaeth achub rhad ac am ddim hwn. Gyda thua 130 o aelodau rydym yn un o’r timau achub mwyaf yn y DU, sy’n ofynnol gan fod rhai o’n hachubiadau wedi ymestyn dros dridiau neu fwy a gallant ddigwydd unrhyw le yn ein hardal weithredol sydd tua 5500km². Mae gennym bencadlys a depo ym Mhenwyllt yng Nghwm Tawe lle y cedwir ein Offer Achub, Ambiwlans Landrover a hefyd lleoliad ein Canolfan Rheoli Achub. Cefnogir hyn gan ein hail ganolfan ger Llangatwg ym Mhowys sy'n cadw gwyliadwriaeth dros yr ogofâu yn ardal Gwent. Rydym hefyd yn cynnal storfa o offer achub mwyngloddiau arbenigol yng Nghanolbarth Cymru. Rydym yn defnyddio cymhareb 1:10 i gyfrifo pa sawl awr fydd eu hangen i gyflawni’r ymdrech achub arfaethedig. I egluro, pe bai claf 1 munud i mewn i ogof mae'n debygol y bydd yn cymryd 10 munud i'w gael i'r wyneb, ar ôl i ni gyrraedd. Mae 1 awr i mewn i ogof yn golygu achubiad yn ymestyn dros 10 awr. Gan fod gennym lawer o deithiau ogofa clasurol sy'n 6-10 awr o hyd, mae hyn yn golygu y gall rhai achubiadau gymryd sawl diwrnod. |