Am y TîmMae Tîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub ar gyfer Pobl ac Anifeiliaid sydd angen cymorth dan ddaear, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Gan weithio ar ran yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, mae SMWCRT / TAOD&ChC yn ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau gan gynnwys ogofawyr sydd ar goll neu wedi’u hanafu, anifeiliaid anwes a da byw sydd wedi’u dal yn gaeth, pobl ar goll a chymorth technegol i wasanaethau achub eraill. Rydym yn gweithredu mewn ogofâu a mwyngloddiau ar draws ardal De a Chanolbarth Cymru |
Sut i Helpu Ariennir y Tîm yn gyfan gwbl trwy roddion cyhoeddus. Mae'n costio dros £16,000 y flwyddyn i ni gynnal y gwasanaeth achub parod i ymateb hwn. Mae pob rhodd yn cynorthwyo i ariannu ein tair storfa offer, Ambiwlans Landrover a hyfforddiant arbenigol i’r gwirfoddolwyr sy’n rhan o’n Tîm.
Diolch am ein helpu ni i helpu pobl ac anifeiliaid mewn angen o dan y ddaear.
|