Hanes byr Ymgyrchoedd Achub Ogof yn Ne Cymru
Yn ei ddechreuad, adnabuwyd SMWCRT wrth yr enw Sefydliad Achub Ogofâu De Cymru (SWCRO) a sefydlwyd ym 1946 yn dilyn ffurfio Clwb Ogofa De Cymru (SWCC) ac yr oedd y tîm achub yn rhan annatod ohono. Fe’i sefydlwyd mewn ymateb i’r gweithgaredd cynyddol yn ogofâu Cwm Tawe a Chwm Nedd gan aelodau’r clwb.
1950au
Cafodd y tîm y digwyddiad mawr cyntaf ym 1951 pan fu iddynt ymateb wedi i lifogydd ddal dau ogofwr ym mherfedd Ogof Ffynnon Ddu yng Nghwm Tawe. Ysgogodd hyn y tîm i ddod yn fwy trefnus ac i feddu ar offer pwrpasol ymlaen llaw.
1960au
Rhoddodd digwyddiad a gymerodd ddau ddiwrnod i achub ogofwyr a anafwyd mewn ogof yn Llethrid Swallet ar Benrhyn Gŵyr ym 1964 y cyfle i’r tîm arddangos ei allu a’i broffesiynoldeb i Heddlu De Cymru, a ffurfio perthynas gref sy’n parhau hyd heddiw.
Ffurfiwyd Cyngor Achub Ogof Prydain (BCRC) ym 1967 gyda'r nod o gynrychioli a chefnogi y timau achub a berthyn iddo ar lefel Genedlaethol a Rhyngwladol, i hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth rhwng y sefydliadau achub hynny a darparu llais cyffredin ar eu cyfer.
Ffurfiwyd Tîm Achub Ogof Gwent (GCRT) ym 1968 mewn ymateb i ddarganfod ogofâu newydd mawr yn ardal Llangatwg ym Mannau Brycheiniog.
1970au
Bu damwain angheuol tra’n plymio yn Agen Allwedd ym 1974 fynnu gosod adnoddau a phersonél y ddau dîm yn Ne Cymru ynghyd ac amlygwyd hefyd yr angen i'r ddau dîm gydweithio'n agosach. Trwy hyn ffurfiwyd sefydliad ymbarél, sef SWCRO, ym 1975.
O ganlyniad, ildiodd yr hen dîm achub a oedd yn rhan o SWCC y teitl SWCRO ac ehangodd ei gylch gwaith i gynnwys clybiau ogofa eraill yn y rhanbarth a thrwy hynny ffurfiwyd Tîm Achub Ogof Gorllewin Aberhonddu (WBCRT).
1980au
Rhoddwyd ymdrechion cyfunol SWCRO ar brawf ym 1980 gyda'r ymdrech achub fawr yn Agen Allwedd. Cymerodd y digwyddiad dros 50 awr, a thua 280 o achubwyr tanddaearol a dangosodd hyn yn glir yr angen i dimau achub allu gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd!
1990au
Gwahanodd WBCRT yn ffurfiol oddi wrth y SWCC ym 1991 i ffurfio tîm achub annibynnol. Cynyddodd aelodaeth y tîm oherwydd hyn a'i alluogi i ennill statws elusen a cheisio am arian grant.
Ym 1992 ehangwyd maes gweithredu’r tîm i gynnwys mwyngloddiau Canolbarth Cymru. Er mwyn cynnal y gwasanaeth prynwyd trelars ychwanegol i gario offer a ffurfio rhwydwaith o wardeniaid newydd yn y rhanbarth.
Ym 1998 cwblhawyd y gwaith o lunio Cwrs Cymorth Cyntaf Uwch newydd ar gyfer Achub Ogof, yr hwn a achredwyd gan y Groes Goch Brydeinig a Chyngor Achub Ogof Prydain. Mae’r cwrs hwn bellach yn cael ei gyflwyno’n flynyddol ar gyfer 9 o’r 15 Tîm Achub Ogof a geir yn y DU ac mae wedi sefydlu ei hun i fod y Safon Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Cyntaf Uwch Achub Ogof yn y DU.
2000au
Ar ddechrau'r mileniwm newydd cafwyd grant gan Treftadaeth y Loteri i adnewyddu yn llwyr y storfeydd ym Mhenwyllt, i foderneiddio’r offer a phrynu Landrover newydd.
Yn 2003, diddymwyd SWCRO er mwyn symleiddio'r Strwythur Cenedlaethol ac ymunodd WBCRT a GCRT yn aelodau unigol llawn o'r BCRC. Rhoddwyd trefniadau cyfansoddiadol ar waith i sicrhau bod y ddau dîm yn parhau i gadw cyswllt agos.
Yn 2009 diddymwyd y GCRT a throsglwyddwyd y maes cyfrifoldeb, yr offer a’r storfeydd yn Whitewalls i ofal WBCRT.
2010au
Gan nad oedd y disgrifiad “Gorllewin Aberhonddu” bellach yn adlewyrchu’r ardal enfawr dan oruchwyliaeth y Tîm, roedd angen newid yr enw; felly yn 2010 cafwyd enw newydd, sef Tîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru.
Yn 2011 roedd enw newydd y tîm yn cael sylw yn y cyfryngau pan wnaethom gefnogi’r ymdrechion yn nhrychineb Glofa Gleision. Llwyddodd deifwyr y tîm i blymio trwy'r lefel dan ddŵr yn y pwll glo a chadarnhau bod y glowyr yn anffodus wedi marw.
Bu i’r tîm ymateb i ddigwyddiad proffil uchel arall yn 2012 wrth iddynt ymuno â nifer o dimau achub a gwasanaethau brys eraill i chwilio am April Jones, merch ysgol o ardal Machynlleth, a oedd ar goll yng Nghanolbarth Cymru.
Daeth cydnabyddiaeth fyd-eang yn 2018 pan gafodd aelodau SMWCRT ac offer o’i eiddo eu defnyddio yng Ngwlad Thai i gefnogi ymdrechion BCRC i achub y 12 bachgen a’u hyfforddwr pêl-droed a ddaliwyd gan lifogydd yn ogof Tham Luang.
2020au
Bu’r ymgyrch codi arian enfawr yn 2020 yn fodd i ni fwrw iddi i foderneiddio ein hoffer gan ddiweddaru stretsieri, radios ac offer rheoli digwyddiadau’r tîm. Roedd yr olaf hwn yn caniatáu i ddigwyddiadau gael eu rheoli mewn adeilad cyfagos, yn hytrach nag yng nghefn cerbyd, trwy wneud defnydd o'r dechnoleg cyfathrebu a gwybodaeth ddiweddaraf. Braidd yn hwyr yn y dydd, roedd SMWCRT bellach wedi cyrraedd yr 21ain ganrif.
Yn 2021 roeddem ym mhenawdau'r newyddion eto gyda’r ymgyrch achub ogof fwyaf a welodd y DU erioed, sef ymdrech 54 awr i mewn yn OFD i achub ogofwr, a anafwyd pan syrthiodd, a’i gario ar stretsier o Gwm Dŵr i’r Top. Bu galw ar aelodau o 9 tîm achub ogof arall a'n holl offer newydd i dynnu'r ogofwr a anafwyd i'r wyneb yn ddiogel.